Workshop
Drumming in the Now*
Colin Daimond
Gweithdy
Drymio
yr Awr*
Colin Daimond

Sunday May 4 • 14:00—15:30
Level: All • *Own instrument required
Dydd Sul Mai 4 • 14:00—15:30
Lefel: pawb • *Mae angen offeryn eich hun

🇬🇧
Colin is offering a fun street-drumming workshop that will be both accessible and challenging to all levels. He will present a new composition specially created for the Encontro based on Northern Brazilian influences - complete with different sections and lead phrases. Anyone involved in Music making within Communities knows what a hugely broad term “Community Music” can be. As well as teaching the new piece directly, Colin will break down the compositional elements and use the piece to share workshopping ideas with participants. As well as loving the new piece, the hope is that each individual will leave with inspiration for both developing their own musical skills and with ideas of how to apply elements from this workshop to their own groups and compositions back home.
Colin has been working with community music and educational projects for almost 30 years having been a founding member of Samba Bangor in 1995. Originally from North Wales, Colin was active for many years across Greater Manchester and Yorkshire. Colin came across the Martial art and cultural Dance form Capoeira i1997 and has trained in affiliation with Associação de Capoeira Senzala Santos – headed by Mestre Sombra ever since. Colin is the Artistic Director for:
the Not-for-profit community Music and Dance organisation. “Capoeira Mocambo”,
Brazilian-model Carnival percussion band “Bloco Sŵn”
Community hand drumming and voice project “Prosiect Ciwba”
Junk Percussion performance group “Ffynci Jync”
Colin is also Percussionist with the popular Welsh band “Band Pres Llareggub” and has been an artist working with “The North Wales Dance Collective” for the past 20 years. Colin works regularly on cross-curricular education projects combining numeracy, literacy, geography, history and the sciences with Carnival Arts, creativity and social skills. He also runs a variety of creative Well-being activities with everyone from SEN groups, charitable organisations and adult community groups.
Colin Daimond
🏴
Mae Colin yn cynnig gweithdy drymio stryd hwyliog a fydd yn hygyrch ac yn heriol i bawb a pob lefel. Bydd yn cyflwyno cyfansoddiad newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr Encontro yn seiliedig ar Ddylanwadau Gogledd Brasil - ynghyd â gwahanol adrannau ac ymadroddion arweiniol. Mae unrhyw un sy'n ymwneud â chreu Cerddoriaeth o fewn Cymunedau yn gwybod bod “Cerddoriaeth Gymunedol” yn gallu bod yn derm eang iawn. Yn ogystal â dysgu’r darn newydd yn uniongyrchol, bydd Colin yn egluro'r elfennau cyfansoddiadol a defnyddio'r darn i rannu syniadau gweithdy gyda chyfranogwyr. Yn ogystal i garu'r darn newydd, y gobaith yw bydd pob unigolyn yn gadael gydag ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu eu sgiliau cerddorol eu hunain a gyda syniadau sut i gymhwyso elfennau o'r gweithdy hwn i'w grwpiau a'u cyfansoddiadau eu hunain nol gartref.
Mae Colin wedi bod yn gweithio yn y maes cerddoriaeth gymunedol a phrosiectau addysgol am bron 30 mlynedd gan fod un o sylfaenwyr Samba Bangor yn 1995. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, roedd Colin yn weithgar am flynyddoedd ar draws Manceinion a Swydd Efrog. Daeth Colin ar draws y grefft ymladd a Dawns ddiwylliannol Capoeira yn 1997 ac mae wedi hyfforddi mewn cysylltiad ag Associação de Capoeira Senzala Santos - dan arweiniad Mestre Sombra ers hynny. Colin yw’r Cyfarwyddwr Artistig ar gyfer:
y sefydliad Cerddoriaeth a Dawns gymunedol ddielw. "Capoeira Mocambo",
Band taro Carnifal model Brasil “Bloco Sŵn”
Prosiect drymio dwylo a llais cymunedol “Prosiect Ciwba”
Grŵp perfformiad taro sothach “Ffynci Jync”
Mae Colin hefyd yn offerynnwr taro gyda’r band poblogaidd Cymraeg “Band Pres Llareggub” ac wedi bod yn artist yn gweithio gyda “The North Wales Dance Collective” am yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Colin yn gweithio yn rheolaidd ar brosiectau addysg trawsgwricwlaidd sy'n cyfuno rhifedd, llythrennedd, daearyddiaeth, hanes a'r gwyddorau gyda Chelfyddydau'r Carnifal, creadigrwydd a sgiliau cymdeithasol. Mae hefyd yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau creadigol lles gyda phawb, o grwpiau AAA, sefydliadau elusennol, a grwpiau cymunedol i oedolion.